Rydym yn ymwybodol bod staff yr Adran Damweiniau ac
Achosion Brys angen sgiliau mewn atal a lleihau achosion o
hunanladdiad a gwybodaeth ynglŷn â pha wasanaethau arbenigol sydd
ar gael i’w cleifion. Er mwyn sicrhau bod egwyddorion ‘Ydych chi’n
teimlo eich bod ar ymyl y dibyn?’ yn cael eu rhoi ar waith yn
ymarferol, rydym yn awgrymu bod staff Adrannau Damweiniau ac
Achosion Brys yn derbyn hyfforddiant yn lleol i gefnogi’r daflen
hon.
Ydych chi’n teimlo eich bod ar ymyl
dibyn?
Rydym am eich helpu i ddod
trwyddi
Ynglŷn â’r daflen
hon
Mae’r unigolyn a roddodd y daflen hon i chi yn
poeni am sut rydych chi'n teimlo ac y gallech deiml
o fel gwneud niwed i'ch hun.
Pan fyddwch yn teimlo’n ofnadwy, gall deimlo
fel petai neb arall eisiau gwybod nac eisiau deall. Gall fod yn
anodd credu bod rhywun nad ydych chi wedi ei gyfarfod o’r blaen yn
gallu poeni am eich sefyllfa. Ond mae yna bobl sydd eisiau gwrando
a deall. Mi fyddan nhw eisiau eich helpu chi.
Dyma’r daflen i chi. Bydd yn eich helpu i
ddeall beth sy’n digwydd a pha fath o help sydd ar gael.
Pwy allai fyth
ddeall?
Gall rhannu eich meddyliau a’ch teimladau
preifat fod yn anodd, ond mae’n gallu helpu – a gall fod y ffordd
orau o fynd drwy gyfnodau anodd. Beth bynnag fo’r rhesymau pam eich
bod yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys, mae gweithwyr iechyd
proffesiynol eisiau ceisio eich deall. Maen nhw eisiau eich helpu i
ymdopi â’r hyn sy’n digwydd yn eich bywyd a’ch helpu i ddod o hyd i
atebion i’ch problemau.
Ond mae hyn wedi digwydd o’r blaen, a does dim
wedi newid?
Gall hunan-niweidio fod yn ffordd o ddelio efo
pethau - nid yw bob amser yn bosib rhoi’r gorau i wneud hynny yn
syth. Ond efallai gallwn eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd eraill o
ymdopi - ffyrdd na fydd yn gwneud cymaint o niwed i chi. Hoffem
eich helpu hefyd i fynd i’r afael â’r problemau sydd yn gwneud i
chi deimlo fel hyn. Os nad ydych yn barod i wneud hyn eto, nid yw’n
broblem; cadwch y daflen hon yn ddiogel nes eich bod yn barod.
Rwyf yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys -
beth fydd yn digwydd nesaf?
Rydych ar fin cael eich gweld gan nyrs neu
feddyg. Bydd ef neu hi’n gwrando arnoch chi ac yn ceisio deall yr
anawsterau sydd wedi dod â chi i’r Adran Damweiniau ac Achosion
Brys. Byddan nhw’n gallu cynnig unrhyw driniaethau meddygol y
byddwch eu hangen. Gallan nhw hefyd ofyn i chi a hoffech weld
rhywun sy’n arbenigo mewn problemau iechyd meddwl.
Beth fydd yn digwydd os caf fy nghyfeirio at
wasanaeth iechyd meddwl arbenigol?
Byddwch yn cyfarfod â gwrandäwr profiadol iawn
sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol ac sydd wedi helpu pobl â
phob math o broblemau. Bydd ganddynt fwy o amser i holi am y
problemau rydych wedi eu cael a byddant yn gwneud eu gorau i’ch
helpu i ddod drwyddi. Ni fydd unrhyw beth y byddwch chi’n ddweud yn
eu synnu nhw ac ni fyddan nhw’n eich barnu.
A fydd hyn yn fy helpu
i?
Gall siarad am eich pryderon, ofnau a gofidiau
efo rhywun y gallwch ymddiried ynddo wneud i chi deimlo’n well.
Gall hyn hefyd eich helpu i weld pethau’n gliriach, i deimlo’n fwy
gobeithiol, ac i feddwl am sut i ddatrys problemau.
Sut arall alla i ddod o hyd i
gefnogaeth?
Efallai eich bod yn teimlo nad oes gennych
unrhyw un y gallwch siarad ag o ar hyn o bryd – hyd yn oed
ffrindiau neu deulu. Ond mae yna bobl sy’n fwy na pharod i
wrando arnoch chi - ond mae’n rhaid iddyn nhw gael gwybod sut
rydych chi’n teimlo.
Os ydych wedi teimlo fel gwneud niwed i chi’ch hun,
efallai y byddai’n ddefnyddiol i:
- Ddweud wrth ffrind neu berthynas; neu
- Gysylltu â’ch Meddyg Teulu; neu
- Gysylltu ag un o’r sefydliadau a restrir isod;
neu
- Gysylltu â’ch gweithiwr allweddol neu dîm iechyd meddwl
os oes gennych un; neu
- Ddod yn ôl i’r Adran Damweiniau ac Achosion
Brys.
Alla i helpu fy hun?
Gallwch - mewn sawl ffordd. Gallwch gychwyn
drwy wneud ‘cynllun diogelwch’ i chi’ch hun. Rhestr o
strategaethau i helpu chi i gadw eich hun yn ddiogel yw ‘cynllun
diogelwch’ sy’n cynnwys rhwydwaith o gefnogaeth. Mae’r math hwn o
gynllun yn fwy tebygol o fod yn effeithiol oherwydd y chi sydd wedi
dewis y math o gefnogaeth rydych chi fwyaf cyfforddus ag o.
Sefydliadau cefnogi ar gyfer pobl sy’n teimlo’n bryderus am
bethau, yn meddwl am hunanladdiad, neu sy’n hunan-niweidio, a’u
teuluoedd
Bydd unrhyw beth fyddwch chi’n ei ddweud yn
gwbl gyfrinachol. Pobl gyffredin yw’r gwirfoddolwyr ac ni fyddan
nhw’n eich barnu. Rhestrir y rhai mwyaf poblogaidd isod. Cewch
gysylltu â faint bynnag – mae’n iawn i chi gysylltu â mwy nag
un.
Y Samariaid: 08457 909 090 (24 /7)
e-bost: jo@samaritans.org;
Llinell gymorth 24/7 sy’n le diogel i chi
siarad am yr hyn sy’n digwydd, sut rydych chi’n teimlo, sut i
ddarganfod eich ffordd eich hun ymlaen. Pobl gyffredin o bob
cefndir yw gwirfoddolwyr y Samariaid ac maen nhw’n deall bod yna,
weithiau, bethau na allwch siarad amdanyn nhw efo’r bobl o’ch
cwmpas. Maen nhw’n gwybod, gydag ychydig o amser a llonydd, bod
pobl yn aml iawn yn gallu dod o hyd i’w atebion eu hunain.
PAPYRUS HOPELineUK; Ffôn: 0800 068 41 41 (dydd
Llun i ddydd Gwener, 10am - 5pm a 7pm - 10pm ac o 2pm - 5pm ar
benwythnosau). Nod PAPYRUS yw atal pobl ifanc rhag cymryd eu
bywydau eu hunain. Llinell gymorth yw hon sydd â staff
proffesiynol yn darparu cefnogaeth, cyngor ymarferol a gwybodaeth i
bobl ifanc sy’n poeni am eu hunain ac i unrhyw un sy’n poeni y
gallai unigolyn ifanc wneud niwed i’w hun. Mae gan PAPYRUS
amrywiaeth o adnoddau defnyddiol gan gynnwys cardiau cyswllt
HOPELineUK, neu gallwch ffonio 01925 572444 neu anfon ffacs 01925
240502 i gael pecyn sampl.
Cyngor arbenigol i bobl sy’n hunan-niweidio
Rhwydwaith Hunan-Niweidio Cenedlaethol
Rhif: ffôn: 0800 622 6000 (7pm i 11pm).
Fforwm ac adnoddau ar gyfer unigolion sy’n
hunan niweidio a’u teuluoedd , ac i weithwyr proffesiynol sy’n eu
cefnogi. Awgrymiadau ynglŷn â beth i’w wneud neu ddweud a beth i
beidio â’i wneud neu ddweud os ydych chi’n helpu rhywun sy’n
hunan-niweidio. Cyngor ar sut i fynd â meddwl rhywun sydd yn ceisio
peidio â hunan-niweidio.
Get Connected: Ffôn: 080 8808 4994 (1pm
i 11pm)
Yn cynnig help dros y ffôn a thrwy e-bost i
bobl ifanc (dan 25) sy’n hunan-niweidio.
Selfharm.co.uk
Prosiect pwrpasol i roi cefnogaeth i bobl
ifanc sy’n cael eu heffeithio gan hunan-niweidio.
TheSite.org
Mae TheSite.org yn cynnig gwybodaeth a
chefnogaeth i bobl ifanc 16-25 oed ar draws y DU. Ceir yma
gefnogaeth a chyngor penodol am hunan-niweidio.
RecoverYourLife
Cymuned ar-lein sy’n rhoi cefnogaeth
hunan-niweidio. Mae hefyd yn rhoi cefnogaeth ar gyfer unrhyw
broblemau emosiynol eraill, yn ogystal â hunan-niweidio.
Sefydliadau eraill sy’n cynnig cefnogaeth:
Big White Wall
Gwasanaeth cyfrinachol ar-lein ar gyfer pobl dros 16 oed. Yma
cewch gefnogaeth 24/7 gan bobl sy’n teimlo union yr un fath â chi.
Cewch ddysgu sut i wneud eich hun deimlo’n well, a sut i ymdopi
â’ch gofidiau.
Call Helpline (Wales): Ffôn: 0800 132
737.
Gwasanaeth 24/7 sy’n cynnig cefnogaeth
emosiynol am ddim a gwybodaeth/llenyddiaeth am iechyd meddwl a
materion perthnasol i bobl Cymru. Anfonwch neges destun ‘help’
at 81066.
CALM: Campaign Against Living
Miserably: Ffôn: 0800 585858
Cynigir cymorth i ddynion 15-35 oed sy’n
teimlo’n isel drwy’r wefan a llinell gymorth. Rhoddir cyngor a
gwybodaeth dros y ffôn. Mae’r galwadau am ddim, yn gyfrinachol
ac yn ddienw. Mae’r llinell gymorth ar agor o 5pm - hanner
nos ar ddydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Llun a dydd Mawrth, pob wythnos
o’r flwyddyn. Gall pobl sy’n ffonio o Lundain hefyd alw 0800 585858
neu anfon neges destun 07537 404717, gan gychwyn y neges gyntaf
CALM1
Childline: Ffôn: 08000
111
Os ydych yn poeni am unrhyw beth, bach neu
fawr, peidiwch â’i gadw i chi’ch hun. Gall siarad â rhywun
wirioneddol eich helpu. Os oes rhywbeth ar eich meddwl, mae
ChildLine yma i chi.
Consumer Counselling Credit
Services
Gwasanaeth cefnogi am ddim ar-lein sy’n cynnig
cyngor cyfrinachol ac ymarferol am faterion yn ymwneud ag arian a
dyledion.
CRUSE Bereavement
Care: Llinell Gymorth 0844 4779400;
e-bost: helpline@cruse.org.uk
Depression Alliance: Ffôn: 0845 123
2320
Gwybodaeth a chefnogaeth i bobl sydd ag
iselder, ac i berthnasau sydd eisiau helpu. Grwpiau hunangymorth,
gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth am iselder. E-bost: information@depressionalliance.org
Depression
UK
Grŵp cydgefnogaeth cenedlaethol ar gyfer pobl
ag iselder. E-bost: cefnogi A national mutual support group for
people suffering from depression. Email: info@depressionuk.org
Drinksmarter:
Llinell gymorth: 0800 7 314 314
Ffoniwch am ddim, unrhyw bryd i siarad â rhywun yn
gyfrinachol.
Mind: Llinell wybodaeth:
Ffôn: 0300 123 3393 (dydd Llun i ddydd Gwener 9am -6pm)
Mae’r llinell yn darparu gwybodaeth am nifer o bynciau yn
cynnwys mathau o ofid meddwl, o le i gael cymorth ac eiriolaeth.
Gallant roi manylion am gymorth a chefnogaeth sydd ar gael i bobl
yn eu hardal nhw. E-bost : info@mind.org.uk
National
Debtline: Ffôn: 0808 808 4000
Gwybodaeth gyfrinachol ac annibynnol am ddim
ar sut i ddelio â phroblemau yn ymwneud â dyledion.
Galw Iechyd
Cymru: Ffôn: 0845 46 47
Am gyngor iechyd ac i dawelu meddwl, 24 awr y
dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
SANE:
SANEline: 0845 767 0800 (6pm-11pm)
Cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth arbenigol i unrhyw un sydd
wedi cael eu heffeithio gan salwch meddwl, yn cynnwys teuluoedd,
ffrindiau a gofalwyr. Mae SANE yn cynnig cefnogaeth 1:1 drwy linell
gymorth a gwasanaethau e-bost a chefnogaeth cyfoedion drwy’r Fforwm
Gefnogaeth ar-lein lle mae pobl yn rhannu eu teimladau a phrofiadau
iechyd meddwl, yn ogystal â chyfnewid gwybodaeth am driniaethau a
chefnogaeth.
Survivors of Bereavement by Suicide
(SOBS):
Llinell gymorth: 0844 561 6855 (9am i 9pm bob dydd)
UK National
Drugs helpline: Ffôn: 0800 77 66 00
Gwasanaeth 24/7 sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth gyfrinachol ac
am ddim i unrhyw un sy’n poeni am, neu sydd â chwestiynau am,
gyffuriau.
Grwpiau
Cefnogi
Manylion am sefydliadau cefnogi cleifion yn y DU, grwpiau
hunangymorth, darparwyr gwybodaeth am iechyd a chlefydau ayyb...
Mae pob cofnod yn cael ei groesgyfeirio ac mae’r manylion yn cael
eu gwirion bob blwyddyn.
This leaflet was produced by the Royal College of Psychiatrists'
Public Education Editorial Board.
Series Editor: Dr Philip Timms
Main Authors: Dr Alys Cole-King, Consultant
Liaison Psychiatrists/Open Minds Alliance CIC with comments from
James Bethel (previous RCN ED rep), Professor Carolyn Chew-Graham,
Joe Ferns (Samaritans), Dr Gil Green (STORM), Dr John Henden, Dr
Chris Manning, Professor Stephen Platt, Martin Seager, Dr Philip
Timms, Keith Waters, Dr Julie Williams (PHW) and contributions from
RCGP/RCPsych Mental Health Forum and College of Medicine Mental
Health Advisory Board and Janet Roberts and colleagues of CALL
Helpline.
With grateful thanks to Eleri Wyn Hughes, Swyddog Iaith Gymraeg
/ Welsh Language Officer, for translating this leaflet.
Illustration by Lo Cole - www.locole.co.uk/
This leaflet is made available through the generosity of the
Charitable Monies Allocation Committee of the mental health charity
St Andrew's, Northampton.


This leaflet reflects the best available evidence at the time of
writing.

© March 2012. Due for review: March 2014. Royal College of
Psychiatrists. This leaflet may be downloaded, printed out,
photocopied and distributed free of charge as long as the Royal
College of Psychiatrists is properly credited and no profit gained
from its use. Permission to reproduce it in any other way must be
obtained from the
Head of
Publications. The College does not allow reposting of its
leaflets on other sites, but allows them to be linked
directly.
The Royal College of Psychiatrists is a
charity registered in England and Wales (228636) and in Scotland
(SC038369)
Please note that we are unable to offer advice on individual cases. Please see our
FAQ for
advice on getting help.
Please answer the following questions and press 'submit' to send your answers OR
E-mail your responses to dhart@rcpsych.ac.uk
On each line, click on the mark which most closely reflects how you feel about the
statement in the left hand column.
Your answers will help us to make this leaflet more useful - please try to rate
every item.
Did you look at this leaflet because you are a (maximum of 2 categories please):
Age group (please tick correct box)